Adolygiadau | Reviews
Lleu - Plant ar
eu traed a'u dwylo yn yr awyr!
Allwch
chi ddim dadlau gyda llond theatr o blant. A doedd yna ddim
dadlau am ymateb cynulleidfa niferus Theatr y Pafiliwn Y Rhyl
i'r perfformiad cyntaf yno o banto diweddaraf cwmni Mega,
Lleu. Yn nhraddodiad y cwmni hwn, panto wedi ei sylfaenu ar
un o chwedlau'r Mabinogion yw hwn ac yn parhau ar daith o
amgylch Cymru tan fis Ionawr nesaf gan ddod i ben yn y
Riverfront, Casnewydd. Ac yn ôl Dafydd Hywel, yr arian byw y tu
ôl Mega, arwydd calonogol o lwyddiant y panto Cymraeg blynyddol
hwn yw y bydd tri pherfformiad dros ddau ddiwrnod yng
Nghasnewydd, Ionawr 22 a 23 2009. Bu'r cwmni yn cynnal pantomeim
er 1994 gan arloesi trwy ganolbwyntio yn bennaf ar straeon o'r
Mabinogion yn hytrach na'r themâu pantomeim arferol. Ond y
presennol, wedi ei sylfaenu ar chwedl Lleu Llawgyffes, fydd yr
un Mabinogaidd olaf gan wneud hon, yn ei ffordd, yn daith
hanesyddol.
Yn hanesyddol am reswm arall hefyd; Gan nad oes Theatr Gwynedd i
ymweld â hi ym Mangor eleni yr ofn oedd y byddai'r ardal honno
a'i chynulleidfa niferus yn cael ei hamddifadu o banto Cymraeg -
nes i Mici Plwm ddod i'r adwy a threfnu perfformiadau Rhagfyr 11
a 12 mewn adeilad ar faes amaethyddol Mona, o bobman, cartref
preimin neu sioe amaethyddol Môn. Mae Theatr y Pafiliwn yn Y
Rhyl yn un â chymylau bygythiol drosto hefyd a diau i'r lliaws o
blant a deithiodd yno o bell ac agos Rhagfyr 1 fod yn
atgyfnerthiad i ddadl y rhai sydd am ddiogelu'r lle. Cyfuniad o
lol, dawns, cân a dwli wedi ei seilio ar chwedl Lleu Llawgyffes
yw Lleu a'r stori yn cychwyn gyda baban bychan yn
syrthio i'r ddaear yn dilyn brwydr ffyrnig "rhwng eryr yr haul a
helwyr y nos".
Dyma Lleu (Trystan Llyr) a dilyn hynt a helynt ei garwriaeth ef
â Blodeuwedd (Glesni Fflur) brydweddol y mae'r panto a chymorth
Bryn - Gwydion - Sbwriel (Erfyl Ogwen Parry) efo 'wheelie
bin') i droi'r drol ar y gynllwyngar Arianrhod (Carys Eleri)
a Gronw Perf (Trystan Wyn).
I oedolyn sy'n gyfarwydd â'r chwedl gallai'r cyfan ymddangos yn
ddryslyd - a swnllyd - iawn ond yr oedd y plant wrth eu boddau
gan ymateb gyda'r cymhelliad leiaf i'r hyn oedd yn digwydd ar y
llwyfan gan ei gwneud hi'n hawdd iawn i'r actorion eu trin. Yr
oedd y theatr yn fyddardod o sŵn a'r gynulleidfa ar ei thraed
gyda'i dwylo yn yr awyr yn ystod rhai o'r caneuon.
Ac
er bod gwedd wahanol i'r 'dihiryn' eleni gydag Arianrhod yn
ddeniadol bryd olau yn hytrach na'r hagr tywyll arferol denodd
Carys Eleri ymateb gwych. Yr un modd yr ymateb i Fryn Sbwriel
Erfyl Ogwen Parry a gymerodd ei le arferol yn chwarae'r cymeriad
doniol sy'n hanfodol i unrhyw bantomeim.
Bu gwrandawiad da i'r caneuon hefyd er bod y system sain yn
golygu nad oedd y geirio'n gwbl eglur bob amser gan gynnwys yn
ystod cân agoriadol Blodeuwedd. Ar gyfer mamau a thadau yn y
gynulleidfa roedd fersiwn a allai fod wedi parhau'n hirach o
Ie, Ie, Na Fe y Tebot Piws ac, yn annisgwyl i rai,
Tylluanod R Williams Parry trwy law Hogia'r Wyddfa.
A doedd R Williams Parry ddim yn rhywun yr oeddech yn disgwyl
dod ar ei draws mewn pantomeim - ond y mae i dylluan, os nad
tylluanod, le o bwys yn chwedl Lleu. Gwir na chadwyd yn gwbl
driw i'r chwedl wreiddiol ond yr oedd yn esgus ac yn rheswm i
blant ymgyfarwyddo â'r chwedl honno ar eu dychweliad i'w
hysgolion. Diau y byddai rhai wedi eu trwytho cyn dod!
Mae pantomeimiau Cymraeg Mega yn osgoi o fwriad rhai o
gonfensiynau y pantomeimiau Saesneg traddodiadol fel y 'Dame'
a chael merch yn 'arwr' - ond dydi'r sioe ddim i'w gweld yn
dioddef oherwydd hynny ac mae'n hyfryd cael sail Gymraeg a
Chymreig i'r cyfan.
Ond mae rhywun yn gofidio fod yr arferiad o gael jôcs
ciami yn gyforiog o eiriau mwys wedi ei hepgor hefyd. Mae angen
y rheini, ar gyfer yr oedolion yn y gynulleidfa yn bennaf. Ond
pan yw plant yn ymateb fel y gwnaeth cynulleidfa'r Rhyl i "Howdi
dwdi dwdi" Bryn Sbwriel pam dylai Mega boeni?
Wedi'r cyfan, waeth ichi heb na cheisio dadlau â llond theatr o
blant.
Adolygiad gan BBC Cymru'r Byd.
