Newyddion

BARTI DDU - sioe bantomeim gan Andrew Clark a Carl Maclean
Dewch i gyfarfod y morleidr dewr Barti Ddu o Gasnewy’ Bach, Sir
Benfro, wrth iddo frwydro yn erbyn moroedd stormus, anghenfilod
ofnadwy a gwrachod môr erchyll ar ei daith i ennill ei le fel
môrleidr enwoca’r byd. Erioed. Ymunwch â Barti Ddu a’r môrleidr o
feddyg, Gumbo, ar eu taith i ad-ennill eu hannwyl long a chariad
y ferch brydferthaf ar donnau’r môr.
A fyddan nhw’n trechu Gwrach yr Eigion....?
A fyddan nhw’n achub
Mavis brydferth....?
Stormydd, canibalyddion, ymladd cleddyfau, sgerbydau a môrladron.
Dewch i orchfygu Gwrach yr Eigion ac ymuno yn hwyl anturiaeth
Barti Ddu.
Manylion y Daith yma - dyddiadau newydd nawr wedi ychwanegu
