Cwmni Mega

 

Croeso i wefan swyddogol Cwmni Mega

Sefydlwyd Cwmni Mega ym 1994 ac erbyn hyn mae’r swyddfa wedi’i lleoli  yng Nghanolfan Addysg Glanaman, Sir Gâr. Prif ffocws gwaith y Cwmni ar hyn o bryd yw’r sioe bantomeim blynyddol sy’n teithio ledled Cymru yn diddanu ac yn addysgu pobl ifanc. Yn y gorffennol mae’r Cwmni wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i lwyfanu’r dramâu Perthyn gan Meic Povey a Panto gan Gwenlyn Parry a’u teithio i theatrau Cymru. Bwriad y Cwmni yw perfformio dramâu tebyg yn y dyfodol.

Mae gan Gwmni Mega draddodiad llwyddiannus o gydweithio’n effeithiol â nifer o sefydliadau gwahanol. Sefydlwyd partneriaeth erbyn hyn gyda Menter Bro Dinefwr a Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot.  

 

Amcanion y cwmni yw:

  • Datblygu cyfleoedd newydd mewn Theatr, Ffilm, Cerddoriaeth a Dawns ledled y Dywysogaeth gyda phwyslais amlycach ar Sir Gaerfyrddin lle mae ardaloedd difreintiedig a diweithdra uchel;
  • Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i lwyddo yn eu galwedigaeth ac i fentro i yrfaoedd llawn amser;
  • Darparu cyfleoedd newydd mewn ardaloedd lle mae’r hen ddiwydiannau trymion bron iawn wedi diflannu;
  • Wedi profi bod y math hwn o adloniant yn denu cynulleidfaoedd mawr, yn drawsdoriad o’r hen a’r ifanc, cred Mega, o’i sefydlu, y gall y cwmni barhau am flynyddoedd lawer i ddarparu gwaith a chyfleoedd i Actorion, Cerddorion, Dawnswyr a Thechnegwyr.

Welcome to the official Cwmni Mega website

Cwmni Mega was established in 1994 and the company is now based in the Glanaman Education Centre, Carmarthenshire. Currently, the company's main focus is on it's annual pantomime which tours the length & breadth of Wales entertaining & educating young people. Previously, the company received support from the Welsh Arts Council in order to stage the dramas Perthyn by Meic Povey and Panto by Gwenlyn Parry on a national tour. The company intends to produce similar dramas in the future.

Cwmni Mega has a successful tradition of effectively working with various different organisations. By now, a prosperous working relationship has been formed with Menter Bro Dinefwr and Menter Iaith Neath Port Talbot. 

The company's objectives are

     
  • To develop new opportunities within Theatre, Film, Music & Dance throughout the principality with an emphasis on  Carmarthenshire with it's underprivileged areas & high unemployment;
  • To inspire & motivate young people to succeed in their vocation and to progress to full-time careers;
  • To provide new opportunities in areas where traditional heavy industries have all but disappeared;
  • Having proven that our brand of entertainment attracts large audiences with a cross section of young & old, Cwmni Mega believes that, being established, the company can continue for many years in order to provide employment & opportunity for Actors, Musicians, Dancers & Technicians.