Croeso i wefan swyddogol Cwmni Mega

Sefydlwyd Cwmni Mega ym 1994 ac erbyn hyn mae’r swyddfa wedi’i lleoli yng Nghanolfan Addysg Glanaman, Sir Gâr. Prif ffocws gwaith y Cwmni ar hyn o bryd yw’r sioe bantomeim blynyddol sy’n teithio ledled Cymru yn diddanu ac yn addysgu pobl ifanc. Yn y gorffennol mae’r Cwmni wedi derbyn cefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru i lwyfanu’r dramâu Perthyn gan Meic Povey a Panto gan Gwenlyn Parry a’u teithio i theatrau Cymru. Bwriad y Cwmni yw perfformio dramâu tebyg yn y dyfodol.
Mae gan Gwmni Mega draddodiad llwyddiannus o gydweithio’n effeithiol â nifer o sefydliadau gwahanol. Sefydlwyd partneriaeth erbyn hyn gyda Menter Bro Dinefwr a Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot.
Amcanion y cwmni yw:
- Datblygu cyfleoedd newydd mewn
Theatr, Ffilm, Cerddoriaeth a Dawns ledled y Dywysogaeth gyda
phwyslais amlycach ar Sir Gaerfyrddin lle mae ardaloedd
difreintiedig a diweithdra uchel;
- Ysbrydoli ac ysgogi pobl ifanc i lwyddo yn eu galwedigaeth ac i fentro i yrfaoedd llawn amser;
- Darparu cyfleoedd newydd mewn ardaloedd lle
mae’r hen ddiwydiannau trymion bron iawn wedi diflannu;
- Wedi profi bod y math hwn o adloniant yn denu cynulleidfaoedd mawr, yn drawsdoriad o’r hen a’r ifanc, cred Mega, o’i sefydlu, y gall y cwmni barhau am flynyddoedd lawer i ddarparu gwaith a chyfleoedd i Actorion, Cerddorion, Dawnswyr a Thechnegwyr.

